Y Ddraenen Wen

Ciw-restr ar gyfer Syr Tomos

 
(1, 0) 9 Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni?
(1, 0) 10 Am y tro diweddaf, |three cheers| iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl.
(Mr Jones-Roberts) {Staccato yn ei ddull o siarad a defnydd mynych o'r spectol aur i gyfleu ei feddwl.}
 
(1, 0) 17 Harri!─
 
(1, 0) 19 .}
(1, 0) 20 Mi faddeuwch i mi 'ch dau, ond Harri fydda i'n ei alw er yn hogyn.
(Mrs Jones-Roberts) {Yn rasol.}
 
(1, 0) 24 Harri, bu Mr. a Mrs. Jones-Roberts yn gefn i mi ac i'r blaid drwy'r blynyddoedd, a syn i mi {fel cadno cyfrwys} na fasa enw Mr. Jones-Roberts ar yr |Honours-list| ers llawer dydd.
(Mrs Jones-Roberts) {Yn ostyngedig.}
 
(1, 0) 31 Dyna adnod i glensio'r ddadl.
(Mr Jones-Roberts) Fel un y mae llwyddiant y blaid yn agos at ei galon─agos iawn os ca i ddweyd─{dan ysgwyd ei ben} wn i ddim a yw'r arweinwyr yn Llundain yn cofio hynny─ond mi fydda i wrth eich cefn tan y diwedd, Mr. Meredith.
 
(1, 0) 39 |Veteran|! mewn dysg a profiad efallai, ond rydych yn edrych yn iengach heddiw─
(Mrs Jones-Roberts) {Yn llyncu'r cwbl.}
 
(1, 0) 47 Pwy ond y gŵr all siarad am wraig ei fynwes?
(Mr Jones-Roberts) {Y spectol yn gweithio.}
 
(1, 0) 53 Os dwedodd Harri unwaith y tair wsnos diweddaf mi ddwedodd ganwaith am yr help fuoch chwi'ch dau iddo.
(1, 0) 54 "Mae tact Mrs. Jones-Roberts," medde fo ddoe, "yn amhrisiadwy".
(Harri) {Yn dwp.}
 
(1, 0) 58 Harri, tasa gen i ddarn o gortyn yn spâr mi faswn yn gofyn iti fel ffafr bersonol i grogi dy hun rhag blaen.
 
(1, 0) 60 Myrddin mi glywsoch chi─
(Myrddin)
 
(Mrs Jones-Roberts) Ymhle y buo fo yn y coleg─Oxford neu Cambridge?
(1, 0) 77 Prifysgol Cymru.
(Mrs Jones-Roberts) {Wrth y gŵr.}
 
(1, 0) 90 Ie, prifysgol i blant y werin─
(Mrs Jones-Roberts) Cofiwch nid ym yn dweyd dim am y werin.
 
(1, 0) 93 Na, na wrth gwrs─mae'u fôts nhw─
(Mr Jones-Roberts) {Staccato.}
 
(1, 0) 99 Peth o'r |atmosphere|.
(Mr Jones-Roberts) Perswadiwch o i sôn llai am yr hobis yma sydd ganddo─|international fellowship|─|political morality|, a mwy am motos y blaid─
 
(1, 0) 102 Sydd wedi'u cerfio ar ein calon.
(Mr Jones-Roberts) Mwy o chware hefyd ar y tant cenedlaethol.
 
(1, 0) 105 Ie, oes y byd i'r iaith Gymraeg!
(Mrs Jones-Roberts) |Good-bye|, Syr Tomos.
 
(Myrddin) Be sy'n bod?
(1, 0) 112 |Atmosphere|─|atmosphere|.
 
(1, 0) 114 Rhaid cael gwared o'r ddau |atmosphere| yna.
(Olifer) Mae Myrddin a finnau'n gorfod cysgu yno heno.
 
(Olifer)
(1, 0) 117 Fasa waeth gen i gysgu ar lwyn o gelyn, ond myn brain! 'does dim |tact| yn Harri.
(Olifer) Fasa fo byth ar ben y pôl onibae am danom ni'n tri.
 
(Myrddin) Wneiff o ddim ohoni yn y senedd efo'i lol am frawdoliaeth y cenhedloedd─|political morality| fy nain: chwi sy'n gyfrifol am i ni ei ddewis.
(1, 0) 120 Hogyn braf ydyw er hynny─thyfith o byth yn ddyn call fel ni'n tri.
(Harri) {Yn dod i mewn.}
 
(1, 0) 124 Roeddwn yn gobeithio dy fod wedi crogi dy hun.
(Myrddin) Mi faddeuwch i ni fel hen ymladdwyr politicaidd, ond rhaid i chwi ddysgu; dioddef ffyliaid, Meredith.
 
(1, 0) 130 Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch.
(Harri) Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb.
 
(Harri) Rwy'n ceisio bod o ddifri efo pawb.
(1, 0) 132 Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri.
(1, 0) 133 Rwyf fi, er enghraifft, wedi palu celwyddau am chwarter canrif, ond rwy'n ddiolchgar na ches i rioed mo 'nal.
(Myrddin) {Fel clochydd.}
 
(1, 0) 139 A'ch celwyddau.
(1, 0) 140 Do, efallai; ond mi lwyddais i gamarwain y mwyafrif─drwy help Myrddin a'r Wasg, a diolch am y Wasg!─hen sefydliad bendigedig yw'r Wasg i amddiffyn celwydd bach gwan amddifad.
 
(1, 0) 142 A dyweded yr holl newyddiadurwyr "Amen."
(Myrddin) {Yn casglu'i bapurau.}
 
(1, 0) 148 Harri, Harri, does dim shâp politisian ar eiriau fel yna.
(1, 0) 149 Cymer gyngor gan wŷr o brofiad fel ni.
(1, 0) 150 Rhyw fath o lastig yw gwirionedd mewn politics─mi elli ei stretsio, wyddost.
 
(Mrs Oliver) Olifer, rwy'n mynd i'r stesion efo Nan i gyfarfod â mam Meredith,
(1, 0) 154 Mi fydd yn drêt i'r hen dre fach hyll yma weld dwy mor hardd.
(Mrs Oliver) Nid bob dydd mae hi'n gweld dwy wraig i |M.P|.
 
(Mrs Oliver) Nid bob dydd mae hi'n gweld dwy wraig i |M.P|.
(1, 0) 156 |Steady on|! dwy wraig i ddau |M.P.|─chaiff |M.P.| ddim ond un wraig ar unwaith, er gofid i rai o'r cnafon.
(Mrs Oliver) Chawsoch chi'r un.
 
(Mrs Oliver) Chawsoch chi'r un.
(1, 0) 158 |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael.
(Myrddin) Rwan Meredith─sylwn ni ddim ar goegni Syr Tomos, ond yn sicr i chi y mae llawer gwir yn well o'i gelu ac mi welwch hynny'n fuan ym myd politics.
 
(Harri) Compromeisio─compromeisio, beth yn syml yw hynny?
(1, 0) 173 Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau |ginger-beer| ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.'
(Mabli) {O'r drws.}
 
(1, 0) 182 Ryda ni i gyd yn Gristnogion, ond y drwg ydi fod Harri o ddifri gyda hi.
(Myrddin) Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif?
 
(Myrddin) Gwawdiwch ymlaen, ond beth yw Meredith well o fyw bywyd yr Apostolion yn yr ugeinfed ganrif?
(1, 0) 184 Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall.
(Myrddin) Hylo, a yw Syr Tomos o fewn ychydig─
 
(1, 0) 187 Na, na, Cristion o deip yr ugeinfed ganrif wyf fi, achos mae rhaff go hir i rai felly.
(1, 0) 188 Wir ddyn byw, fe all paganiaid fel ni'n tri fod yn Gristnogion heddiw drwy drugaredd, ond fod rhyw hurtyn o ddyn fel Harri yn anesmwytho tipyn ar ddaliadau cyfforddus dynion diwiol fel ni.
(Olifer) {Yn ddig.}
 
(Olifer) Yr ydach chi'n cymryd yn ganiataol fod yn rhaid i ddyn werthu'i gydwybod os am lwyddo fel masnachwr neu bolitisian.
(1, 0) 191 Sut yr oedd yr hen chware gynt?
(1, 0) 192 "Fedri di fynd i'r ffair i werthu wya heb ddweyd ïe?""
(1, 0) 193 "Medra."
(1, 0) 194 "Dros y bont neu drwy'r caea," ac ymlaen fel yna, a'r gamp oedd peidio dweyd ïe, ond dweyd ïe yr oeddym bob cynnig mewn ffordd rownd-abowt.
(Olifer) Wel?
 
(Olifer) Wel?
(1, 0) 196 Chwarter canrif yn ôl euthum i'r Senedd yn benderfynol o beidio dweyd ïe wrth gelwydd a thwyll, ond cyn hir gwelais fod yn rhaid í mi ddweyd celwydd diplomatig, a chan mai brawd tagu yw mygu mi euthum ymlaen o'r celwydd diplomatig at y celwydd noeth─does dim trwch papur sidan rhyngddynt.
(Myrddin) Rhywbeth tebyg fydd profiad Meredith, ond mi ymgynghorwn â'r oracl.
 
(1, 0) 203 Be wyddo ni, dri dyn diwiol, nad oes gan Harri ryw syniad mai mynd i fyny yw dod i lawr?
(Myrddin) {Yn frawdol.}
 
(1, 0) 213 Ffrind!
(1, 0) 214 Do.
(1, 0) 215 Rargian fawr, fasa f'enw i ddim yn perarogli fel y mae drwy Gymru onibae i chi drwsio f'areithiau a rhoi ambell baragraff bach diwiol fel hyn drwy Wasg Cymru:
(1, 0) 216 "Y Saboth diweddaf yr oedd Syr Tomos Owen yn bresennol ddwywaith yng nghapel Llwynyblawd.
(1, 0) 217 Mor ddymunol yw gweld ein Seneddwyr yn cadw at yr hen ddefodau sy wedi gwneud Cymru y wlad fwyaf crefyddol dan haul."
 
(1, 0) 219 Dim gair, cofiwch, am y gêm o golff y Sul diweddaf neu chawn ni byth eto fynd i brif wyliau'r Ymneilltuwyr.
 
(1, 0) 221 Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr.
(Harri) Ffarwel, Olifer.
 
(Harri) Diolch i chithau, Myrddin, am bob help yn yr etholiad, ond cofiwch nad wy'n rhwymo fy hun wrth neb─Syr Tomos na'r Wasg na'r Weinyddiaeth.
(1, 0) 225 Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd.
(Harri) Beth sydd o'i le arnyn' nhw?
 
(Harri) Beth sydd o'i le arnyn' nhw?
(1, 0) 227 Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid.
(Harri) {Yn twymo.}
 
(1, 0) 231 Ti a dy bobol gyffredin─nhw sydd wedi lladd pob un fu'n ddigon hurt i geisio gweini arnynt─mi lladdan' dithau at y |rest|─nhw yw'r set fwya anniolchgar tan haul.
(1, 0) 232 Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn.
(Mabli) Rwyf wedi plethu coron o flodeu i roi ar eich pen.
 
(1, 0) 255 Rwy'n pesychu, Mabli, i ti wybod mod i yma.
(Mabli) Dim ods o gwbl; rwyf newydd goroni nhad yn frenin.
 
(Mabli) Dim ods o gwbl; rwyf newydd goroni nhad yn frenin.
(1, 0) 257 Brenin ar bwy?
(Mabli) Ar Mabli.
 
(Mabli) Ar Mabli.
(1, 0) 259 Beth yw ei deitl?
(Mabli) Y Brenin Harri.
 
(Mabli) Y Brenin Harri.
(1, 0) 261 Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed?
(Mabli) Nage─Harri heb ei ail.
 
(Mabli) Nage─Harri heb ei ail.
(1, 0) 263 Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed?
(Mabli) Bron yn bymtheg: beth yw'ch oed chi?
 
(Mabli) Bron yn bymtheg: beth yw'ch oed chi?
(1, 0) 265 Pymtheg─ers plwc bellach.
(Harri) Hen lanc ydi o, Mabli, ac mae o'n drigain a phump os yn ddiwrnod.
 
(Mabli) Faint sy rhwng pymtheg a thrigain a phump?
(1, 0) 268 Yr un faint ag sy rhwng afal coch ar y pren ganol haf ac hen afal melyn yng ngwaelod y sach ddiwedd y flwyddyn.
(1, 0) 269 Rwy'n gweld o'r balconi dy fam a dy nain yn dod.
(Mabli) Tynnwch y llian yna oddiam danoch.
 
(1, 0) 273 Harri, fe anghofiais y rhan bwysicaf o f'araith gynneu wrth ganu ffarwel am byth i fy hen etholwyr: wnei di wrando arni?
(Harri) {Dan chwerthin.}
 
(1, 0) 277 Annwyl gyd-wladwyr, dyma'r hen Gyrnol yn cadw noswyl, ond ar f'engoch i, nid cyn gwneud diwrnod go lew o waith.
(1, 0) 278 Buoch yn godro fy manc-book am chwarter canrif nes mae bron yn sych gorn; agorais basars a |sales-of-work| a |jumble-sales| wrth yr ugeiniau; mae f'enw, er cynddrwg ydwyf, ar gerrig sylfaen y pedwar enwad; cefais |jobs| i gannoedd o'ch perthnasau; tanysgrifiais at bob tysteb o fewn y deuddeg sir; nid unwaith na dwy y buoch ar fy ngofyn am bres i brynu dannedd gosod a throliau a mulod i etholwyr tlawd.
(1, 0) 279 A dyma'r corn bwyd olaf wedi canu ar yr hen Gyrnol, a'r tipyn enaid oedd ganddo chwarter canrif yn ôl wedi diflannu wrth weini arnoch.
(Nan) {Yn brysio i mewn â theligram yn ei llaw.}
 
(Nan) Mi fasa dyn yn meddwl oddiwrth eich dull mai teligram oddiwrth ysgubwr simneu yw hwn.
(1, 0) 287 Fachgen, fachgen!
(1, 0) 288 Y Prifweinidog yn dy longyfarch!
(Nan) {Yn fywiog a serchog.}
 
(Nan) Pan fo pawb yng Nghymru yn crafangu am swyddau, mae'n deg i un sydd wedi gwneud cymaint o waith tawel a chi gael ei gydnabod.
(1, 0) 295 Wel di, Harri, mae hwn {yn dal y teligram} naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch.
(Harri) {Yn anesmwyth.}
 
(Nan) Ei fam, ei fam yw popeth.
(1, 0) 300 Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai.
(Janet) Wel, Harri, mi gest d'ethol yn anrhydeddus.
 
(Janet) Dyma'r gwas newydd, yntê, wedi dod i sgidiau'r hen was?
(1, 0) 306 Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol.
(Janet) Fe ddylai Aelod Seneddol heddiw wisgo esgid go drom.
 
(Janet) Fe ddylai Aelod Seneddol heddiw wisgo esgid go drom.
(1, 0) 308 Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma.